Played 0 times [Flash 9 is required to listen to audio.]

(English readers, see footnote)

Gas gena’i glywed fy llais fy hun (crinj). Gas gena’i roi hwn allan yma ar y rhyngrwyd. Mae’n groes i’r graen rywsut. Dwi’n berson eitha positif yn gyffredinol, dw i ddim yn hoffi siarad am unrhyw wendid; gwydr hanner llawn i mi bob cyfle. Bod yn ddewr, cario ymlaen yn ddi-gwyn, dyna mae bobl yn ei edmygu ynte, a dyna dwi wedi ei wneud am ddegawd a mwy. Ond digon yw digon. Fedrai ddim cau ngheg mwyach.* Dwi’n teimlo bod rhaid rhannu mwy o’r stori, petai ond er mwyn yr holl bobl sydd yn rhy wael i allu gwneud hynny. Efallai hefyd fy mod angen mynd trwy broses o gatharsis cyn dringo’r ris nesaf.

Recordiwyd hwn ddechrau’r mis hwn, yn ystod y “relapse” presennol - ar fy ffon symudol fach gyffredin, felly ymddiheuriadau os yw’r ansawdd ddim cystal ag y gallai fod. Mae’n un o gyfres o recordiadau. Tydi’r ‘lleill heb eto weld golau dydd.

Er mod i gymaint gwell yn ystod y 4 blynedd dwetha, yn amrywio o 25-40 ar y raddfa anabledd ME, sydd yn frenin o’i gymharu a’r 10-20 yn ystod y blynyddoedd blaenorol, mae’n dal i fod yn her fawr ceisio byw o ddydd i ddydd. Dwi’n caru bywyd, dwi’n codi’n obeithiol bob dydd, ond mae hyd yn oed y pethau sylfaenol yn dwyn y dogn helaethaf o’m nerth ac o bryd i’w gilydd maent yn mynd yn drech na fi. Un peth yn arbennig dwi’n ganfod yn ddiweddar, ydi’r angen i fynegi yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y pedair blynedd ar ddeg gyntaf, cyfnod pryd oeddwn i’n rhy sal y rhan helaethaf o’r amser i allu siarad a rhannu dim. Bob tro dwi’n cael “relapse” y dyddiau yma, mae fel mynd yn ol mewn peiriant amser i’r cyfnod hwnnw a gan fy mod i rwan “yn well” (yn yr ystyr gymharol o leiaf), dwi’n ffendio fy mod o’r diwedd yn gallu rhoi llais i’r hyn a ddigwyddodd yn y cyfnod hwnnw. Mae’n gas gen i wneud. Mi fyddai lawer gwell gen i rannu stori fach neis neis o ricyfro. Dyna’r stwff ma bobl yn licio ynde. Ond er mwyn y llwythi sydd allan yne ag yn dal i ddiodde o gyflyrau chronig difrifiol o ddydd i ddydd, falle bod y cyfnod yma’n fendith ac mai fy joben i yw i roi llais i’ch profiad chi a finnau.

~

* Yn ol pob golwg, mae’n debyg bod agwedd o’r fath yn brofiad go gyffredin i’r mwyafrif sydd hefo’r cyflwr

Most of the time we say we’re okay or fine because we know that “How are you doing?” is usually a formality.  We try not to be a burden on everyone around us, so we just don’t show everything that we’re feeling.  And keep in mind that when you see us somewhere and we’re looking healthy and good, it’s because we’ve rested up, conserved energy, and used our medications so that we can participate in the occasion.  When we go back home again, we’re hitting the ice packs and the heating pads and the pain pills and our beds.

How to understand someone with Chronic Pain

Footnote - This a Welsh recording and a post about the challenges of living with Severe ME/CFS for 18 years. It’s possible that I may make an English post about similar themes in future - energy permitting of course!

Notes

  1. purplefishie posted this